Arall i Ifor
1 Ifor aer o fawrwriaeth
2 deg avr fau diegyr faeth
3 dewraf neu gryfaf gwr
4 dy ddylyn di eddilwr
7 myfi yw ffraeth-liw ffrwythlawn
8 maer dy dda mawr yw dy ddawn
9 Ys dewr wr ystyriawl wyd
10 ystor odwas ys dewr ydwyd
11 Telais it wawd tafawd hoew
12 telaist i'm fragod tu-loew
13 Rhoest im swllt rhyw ystym serch
14 rhoddaf it brif enw Rhydderch
15 Cyfarf arf deifr ni'th wehirdd
16 cyfaillt a mab aillt y beirdd
17 Cadarn wawr cedyrn wiw ryw
18 Caeth y glêr cywethog lyw
19 Da wyt a syber dy iach
20 Duw a fedd dau vfyddach
21 wyt ith fardd pellgardd pwyllgall
22 llowiwr llu or llaw i'r llall
23 O'n iaith ith y
rhylunieithir
24 air nid gwael arnat y gwir
27 Hyd yr ymddaith dyn eithaf
28 hyd y try hwyl hy haul haf
29 A hyd y heuir y gwenith
30 A hyd y gwlych hoew-deg wlith
33 Hyd y gwyl golwg digusd
34 hydr yw a hyd y clyw clusd
35 Hyd y mae iaith Gymraeg
36 a hyd y tyf hadau têg
37 hardd Ifor hoew ryw ddefod
38 hîr dy gled heuir dy glod
Dafydd ap Gwilym